Achrediad Newydd!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi, yn dilyn archwiliad annibynnol, ein bod bellach wedi’n hachredu gan y Living Wage Foundation.
Rydym yn un o lond dwrn yn unig o asiantaethau sydd wedi llwyddo i gyrraedd y safon hon.
Mae’r achrediad hwn yn dangos ein hymrwymiad i dalu ein staff yn deg a buddsoddi yn ein gweithlu drwy dalu isafswm o’r cyfraddau cyflog a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw.
Mae’r gyfradd tâl a warantwn yn llawer uwch na’r isafswm cyflog ac fe’i cyfrifir i adlewyrchu’r incwm sydd ei angen i gynnig safon byw dda. Fel busnes moesegol, credwn fod gan ein holl staff yr hawl i gael eu talu'n deg.
Roedd Hilary Butler, Cyfarwyddwr Cyllid Rundles wrth ei bodd yn clywed y newyddion am ein llwyddiant, “Rydym yn credu’n gryf, trwy drin ein pobl â pharch a thalu staff yn deg, ein bod yn gallu denu gweithlu a fydd yn cyflawni ein gwerthoedd o orfodi moesegol, teg a chymesur. Gweithlu medrus a brwdfrydig yw’r unig ffordd i warantu’r lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid sydd wedi bod yn asgwrn cefn i’n busnes a maes y mae cleientiaid bob amser yn dweud ein bod yn rhagori ynddo”.
Os hoffech drafod sut y bydd ein buddsoddiad mewn hyfforddi a datblygu staff yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwell i’ch timau, cysylltwch â Mike Harkins, Rheolwr Datblygu Busnes Rundles – [e-bost wedi'i warchod]