Achrediad Newydd
Yn dilyn archwiliad diweddar o’n gwasanaethau cwsmeriaid a’n prosesau gorfodi, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach wedi’n hachredu i BS18477, y safon Brydeinig ar gyfer “Nodi ac Ymateb i Bregusrwydd Defnyddwyr".
Mae'r achrediad yn cwmpasu ein gweithrediad cyfan gan gynnwys gwasanaethau rheoli cwsmeriaid/dyledwyr, hyfforddi staff a phrosesau gorfodi 'yn y maes'.
Dywedodd Amy Collins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleient Rundles “Mae ein holl gwsmeriaid yn wahanol, gydag ystod eang o anghenion, galluoedd ac amgylchiadau personol. Mae bregusrwydd yn gyflwr cymhleth, deinamig a all effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg am lawer o wahanol resymau. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi unrhyw aelod o gymdeithas, waeth beth fo’u hamgylchiadau personol. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gallu profi i gleientiaid a rhanddeiliaid ein bod yn canolbwyntio adnoddau sylweddol ar y maes hwn; mae’r achrediad bregusrwydd hwn yn gwneud hynny.”
I ddarganfod sut y gall ein ffocws ar orfodi moesegol a chefnogi pob aelod o gymdeithas sicrhau cyfraddau casglu uwch ar gyfer eich Cyngor, e-bostiwch [e-bost wedi'i warchod].