Cefnogi'r Amddiffyn a'r Lluoedd Arfog
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Rundles wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog i ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned Amddiffyn a’r Lluoedd Arfog.
Gyda’r addewid hwn rydym yn ymrwymo i gydnabod gwerth personél sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Byddwn yn cynnal egwyddorion allweddol cyfamod y lluoedd arfog:
- Ni fydd unrhyw aelod o gymuned y Lluoedd Arfog yn wynebu anfantais wrth ddarparu ein gwasanaethau o gymharu ag unrhyw ddinesydd arall
- Mewn rhai amgylchiadau, gall triniaeth arbennig fod yn briodol, yn enwedig i'r rhai sydd wedi'u hanafu neu mewn profedigaeth.
Mae ein dyled yn fawr i'r rhai sy'n amddiffyn ein cenedl. Arwyddo’r cyfamod yw ein ffordd ni o ddangos ymrwymiad i’r rhai sy’n aberthu er ein diogelwch.
Amy Collins / Rheolwr Gyfarwyddwr Rundles
I gael rhagor o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog os gwelwch yn dda cliciwch yma